|
|
 |
 |
 |
|
Sefydlwyd Côr Meibion Dyffryn Aman ym
1990 gan grwp o ffrindiau a fwynhâi
ganu gyda’i gilydd ac a gredai ei bod
hi’n hen brydcychwyn côr meibion
yn yr
ardal. Denir y 45 o’r aelodau presennol
o’r amryw drefi a phentrefi yn ardal
Dyffryn Aman.
Mae’r côr wedi perfformio mewn
270 cyngerdd a mwy mewn lleoliadau dros Brydain
i gyd. Mae wedi teithio i Iwerddon, Ffrainc,
Yr Iseldiroedd ac eleni, Gwlad Belg i ganu.
Dros y blynyddoedd rydym wedi helpu codi miloedd
o bunnoedd at achosion da.
Mae ein dewis o ganeuon yn eang ac amrywiol,
yn cwmpasu corysau operatig a chaneuon pop
yr unfed ganrif ar hugain. Cynhyrchom ein
cryno ddisg cyntaf ychydig flynyddoedd yn
ôl a byddwn yn dychwelyd i’r stiwdio
recordio yn yr Hydref fel y medrwn greu cryno
ddisg newydd i ddathlu’n pen blwydd
yn 20 oed yn 2010.
|
|
 |
 |
 |
|
|
 |
 |
 |
| |
Mae
Dyffryn Aman yn sir Gaerfyrddin yn Ne Orllewin
Cymru. Bu’r ardal dan drem pyllau glo
a diwydiant trwm am dros ganrif ond erbyn
heddiw, prin yw eu hôl. Tra bu’n
tadau and teidiau bob un yn lowyr, mae gan
ein cantorion ni gefndiroedd amrywiol. Siaredir
y Gymraeg gan y mwyafrif yn Nyffryn Aman ac
adlewyrchir hyn o fewn y côr. Canwn
yn y Gymraeg a’r Saesneg, a hyd yn oed
Ffrangeg ac`Almaeneg ar ambell achlysur!
Ian Llewelyn sydd wedi bod yn gyfarwyddwr
cerdd i’r côr ers y dechrau. Astudiodd
Ian Gerdd ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth,
a graddiodd ym 1982. Mae wedi gweithio i lywdoraeth
leol er 1983. Mae wedi arwain sawl côr
dros y blynyddoedd a helpodd sefydlu Côr
Meibion Dyffryn Aman ym 1990.
|
|
 |
 |
 |
|
|